Mynd i'r cynnwys

Amdanom Ni

Roedd SPECIFIC yn un o saith Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth a sefydlwyd i feithrin diwydiannau newydd trwy gau’r bwlch rhwng ymchwil wyddonol a’r defnydd masnachol ohoni.

Mae cysyniad adeiladau SPECIFIC yn cyfuno technoleg solar mewn un system sy’n eu galluogi i gynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni solar eu hunain – ar ffurf gwres a thrydan.

PAM MAE HYN YN BWYSIG?

Adeiladau sy’n gyfrifol am tua 40% o’r ynni a ddefnyddir yn y DU a’r allyriadau carbon cysylltiedig. Mae SPECIFIC yn arwain y ffordd ar gyfer datgarboneiddio gwres a phŵer mewn adeiladau, er lles meddianwyr a pherchnogion, y gymdeithas ehangach a’r isadeiledd ynni.

CARBON ISEL

  • Bydd adeiladau’n rhedeg ar ynni solar
  • Ni chynhyrchir allyriadau carbon wrth ddefnyddio adeiladau
  • Bydd y galw am ynni’n lleihau

FFORDDIADWYEDD

CYFLENWAD SICR

  • Cyflenwad ynni sefydlog a lleol; yn cael ei gynhyrchu lle caiff ei ddefnyddio
  • Dim nwy ar gyfer gwresogi
  • Bydd yn lleihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil
  • Darparu gwasanaethau sy’n cydbwyso’r grid
The Active Office building

DULL GWEITHREDU SPECIFIC

Cynyddu Graddfa’r Dechnoleg

Mae SPECIFIC yn dwyn ynghyd arbenigwyr o’r radd flaenaf o ystod o feysydd gan gynnwys ffotofoltäeg, technoleg solar thermol, caenau gweithredol yn ogystal â storio gwres a thrydan.

Mae pedwar cyfleuster integredig yn darparu gwasanaeth o’r labordy i’r llinell gynhyrchu – gan gynnwys y labordai newydd â’r cyfleusterau diweddaraf ym Mhrifysgol Abertawe, llinellau gweithgynhyrchu arbrofol sy’n darparu’r cynhyrchion ar raddfa adeiladau, ac adeiladau graddfa lawn sy’n arddangos y dechnoleg.

Systemau ac integreiddio

Yn ogystal â datblygu technolegau newydd ein hunain, rydym yn helpu pobl eraill i ddatblygu eu rhai nhw ac rydym yn creu’r systemau sy’n eu cysylltu ynghyd mewn adeilad.

Rydym yn adeiladu adeiladau unigryw i brofi’r systemau mewn sefyllfaoedd ystyrlon. Er enghraifft, mae’r Ystafell Ddosbarth Weithredol, a ddefnyddir gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnwys nifer o dechnolegau newydd ac arbrofol er bod y Swyddfa Weithredol, sy’n gartref i’r Ganolfan Adeiladu Gweithredol, yn defnyddio technoleg sydd ar gael yn fasnachol yn unig.

O’r Cysyniad i Fasnacheiddio

Mae ein rhwydwaith unigryw a chynyddol o brifysgolion a chwmnïau blaenllaw – o gorfforaethau amlwladol i fusnesau bach a chanolig arloesol – yn cydweithio i gynyddu graddfa technolegau, datblygu cadwyni cyflenwi a nodi llwybrau i’r farchnad.

O fewn y ganolfan ac yn ein rhwydwaith mae gennym gasgliad unigryw o ymchwilwyr, peirianwyr, gweithwyr proffesiynol ym meysydd datblygu busnes, ymgysylltu, eiddo deallusol a masnacheiddio, ynghyd â phenseiri ac arbenigwyr adeiladu.

PROSIECTAU CYSYLLTIOL

COATED M2A Logo
SUSTAIN Logo
FLEXIS Logo
Ser Solar logo