Mynd i'r cynnwys

Dr Martin Brunnock

Mae Martin wedi gweithio mewn sawl rhan wahanol o’r diwydiant dur yn ystod gyrfa sydd wedi rhychwantu dros 25 mlynedd, ac ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Gweithgynhyrchu ar gyfer Canolbwynt Tata Steel yn Ewrop ar gyfer Cynnyrch Strip y Deyrnas Unedig.
Mae gan Martin, sy’n gymrawd i’r Sefydliad Deunyddiau, Mwyngloddio a Mwynau ac yn Beiriannydd Siartredig, MBA o Brifysgol Warwick a Doethuriaeth Peirianneg mewn Technoleg Galfaneiddio o Brifysgol Abertawe. Mae hefyd yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ei rôl bresennol, Martin sy’n gyfrifol am weithrediad y prif asedau y mae cynnyrch yn llifo ohonynt, gan gynnwys melinau poeth, melinau oer ac unedau cynhyrchu galfaneiddio. Mae hefyd yn arwain un o themâu rhaglen newid Cyflawni Ein Dyfodol y canolbwynt, sef “Gwerth i Gwsmeriaid” ar gyfer Tata Steel UK, mewn partneriaeth agos â chwmnïau moduron allweddol fel JLR, Nissan, GM, BMW a Honda – “Gwneud Cwsmeriaid yn ganolog i’n busnes”. Mae’n noddi rhaglen Gymunedol Cymru yn ogystal.

Mewn diwydiant sydd â’r gallu i gael effaith gadarnhaol ar gynifer o faterion amgylcheddol, a chyda chymorth buddsoddiadau cyfalaf sylweddol, mae rôl Martin yn dod yn fwyfwy canolog i gynaliadwyedd y diwydiant dur yn y dyfodol. Bellach yn gweithio fel rhan o grŵp byd-eang Tata, mae’r cyfleoedd i rannu arfer gorau ac elwa o dechnolegau a rennir yn fwy nag erioed, ac mae’r Cwmni’n dechrau cael ei gydnabod yn Ewrop am ei gyfraniad pwysig i’r agenda amgylcheddol.

Share this post: