Mynd i'r cynnwys

Dr Nick Brown

Ar ôl cwblhau PhD mewn Cemeg yn Lerpwl, mae Dr Nick Brown wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau yn y diwydiant caenau arwyneb, a hynny yn y Deyrnas Unedig a thramor (gan gynnwys De Affrica, Awstralia, America a Siapan), dros gyfnod o 25 mlynedd. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Masnachol gyda BASF Coil Coatings, is-adran o BASF SE, cwmni cemegol mwyaf y byd.

Mae Dr Brown wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu’r bartneriaeth gydweithredol rhwng SPECIFIC a BASF. Yn benodol, mae wedi bod yn allweddol i’r gwaith o ddatblygu ymgysylltiad ehangach personél SPECIFIC â rhwydweithiau BASF. Yn fwyaf diweddar bu’n trefnu ymweliad â Ludwigshafen (Pencadlys BASF) er mwyn i staff uwch o SPECIFIC gyflwyno a chymryd rhan mewn sesiwn Arddangos mewn Digwyddiad Deialog Rheoli Ymchwil a Datblygu BASF ym maes Ynni ac Adnoddau.

Mae Dr Brown yn aelod o’r Bwrdd yn achos Bwrdd Ymgynghorol a Grŵp Llywio IKC SPECIFIC; mae hefyd yn aelod o Fyrddau Cymdeithas Caenau Coil y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Share this post: