Mynd i'r cynnwys

YR ATHRO DAVE WORSLEY

Mae’r Athro Worsley yn awdur ac yn gyd-awdur 129 o gyhoeddiadau gwyddonol wedi’u dyfarnu ynghylch datblygu caenau ar gyfer cynhyrchion. Bu’n gweithio’n agos gyda’r diwydiant caenau ers iddo gael ei benodi i’r Ganolfan Ymchwil Deunyddiau yng nghanol y 1990au, yn dilyn PhD wedi’i noddi gan ddiwydiant (Johnson Matthey), Cymrodoriaeth Ddiwydiannol (Astra Zeneca) a Chymrodoriaeth Dur Prydain.

Mae’r Athro Worsley yn Gyfarwyddwr Ymchwil Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC – trawsnewid ‘adeiladau’n orsafoedd pŵer’ trwy harneisio pŵer ynni solar. Wedi’i chyllido’n bennaf gan ERDF, EPSRC ac Innovate UK, cefnogir y prosiect cydweithredol hwn gan 54 o gwmnïau sy’n masnachu’n rhyngwladol ond sydd hefyd ag ôl troed yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Tata Steel, NSG Pilkington, Akzo Nobel a Vale INCO. Ar ben hynny, caiff canolfan SPECIFIC ragor o gymorth gyda’r gwaith hwn trwy gynlluniau cydweithio strategol â Choleg Imperial, Llundain (Sêr Cymru Sêr Solar), prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt ynghyd â nifer o brosiectau partner gyda 12 o brifysgolion eraill yn y Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd eraill.

Ac yntau’n ‘Athro a noddir gan Tata’, ffurfiodd yr Athro Worsley Sefydliad Dur a Metelau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei rôl fel Arweinydd Ymchwil Academaidd SUNRISE (prosiect GCRF 2018) yn galluogi Prifysgol Abertawe i arwain Prifysgolion Caergrawnt, Rhydychen, Imperial a Brunel yn y Deyrnas Unedig a saith o’r prif Sefydliadau yn India, ochr yn ochr â’r partneriaid diwydiannol Tata CleanTech, NSG a chadwyn gyflenwi o fusnesau bach a chanolig er mwyn datblygu ac adeiladu systemau ynni solar integredig ar gyfer cymunedau gwledig yn India.

Mae’n Is-lywydd (Arloesedd) Prifysgol Abertawe.

Meysydd Arbenigedd:

  • celloedd solar perovskite a brosesir trwy hydoddiant
  • adeiladu ffotofoltäeg integredig
  • cymhwyso a datblygu caenau
  • gwyddoniaeth a pheirianneg cyrydu
  • dur adeiladu
  • caenau a ddefnyddir i amddiffyn rhag cyrydu wrth gynhyrchu ynni adnewyddadwy

Yn 2015, derbyniodd yr Athro Dave Worsley anrhydedd Medal a Gwobr Hadfield gan y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3), i gydnabod ei waith nodedig ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg deunyddiau ac, yn arbennig, ei gyflawniadau yng nghyswllt y diwydiannau haearn a dur.

Share this post: