Mynd i'r cynnwys

Yr Athro Peter Head

Mae Peter yn gadarn o blaid datblygu cynaliadwy. Sefydlodd yr Ecological Sequestration Trust yn 2011. Mae’n dadlau y gallem ni fuddsoddi arian cyhoeddus a phreifat yn llawer mwy effeithiol yn yr amgylchedd adeiledig petai’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn mabwysiadu egwyddorion datblygu cynaliadwy.
Peirianydd sifil a strwythurol yw Peter, sydd wedi dod yn arweinydd byd cydnabyddedig am bontydd pwysig (derbyniodd OBE am ei waith fel Asiant y Llywodraeth yn llwyddo i gyflawni Ail Bont Hafren), technoleg gyfansawdd uwch, a bellach ym maes datblygu cynaliadwy mewn dinasoedd a rhanbarthau.

Mae wedi ennill gwobrau lawer am ei waith, gan gynnwys Dyfarniad Teilyngdod IABSE, Medal Arian yr Academi Beirianneg Frenhinol, a Gwobr y Tywysog Philip am Bolymerau at Wasanaeth y Ddynoliaeth. Ym mis Gorffennaf 2008 dyfarnwyd iddo ddoethuriaeth anrhydeddus mewn peirianneg ym Mhrifysgol Bryste, lle mae’n Athro gwadd mewn Peirianneg Systemau Cynaliadwy. Ym mis Mai 2011 fe’i penodwyd yn athro gwadd mewn eco-ddinasoedd ym Mhrifysgol Westminster. Yn 2009 dyfarnwyd iddo fedal Syr Frank Whittle o’r Academi Beirianneg Frenhinol am gyfraniad oes i lesiant y genedl trwy arloesedd amgylcheddol.

Share this post: