Mynd i'r cynnwys

Yr Athro Steve Wilks

Graddiodd yr Athro Wilks o Brifysgol Caerdydd (BSc a PhD) yn 1988 ac 1992 yn eu tro ym maes ffiseg, gan edrych yn benodol ar ddulliau o reoli priodweddau electronig cyffyrdd lled-ddargludyddion perthnasol i ddyfeisiau a ddatblygir yn y diwydiant electroneg. Symudodd yr Athro Wilks i Abertawe yn ddarlithydd yn 1994, a rhoddwyd cadair bersonol iddo yn 2000. Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae ei faes ymchwil wedi symud tuag at ddyfeisiau a synwyryddion nanoraddfa, gan ddefnyddio methodolegau stiliwr sganio newydd. Yn 2002, sefydlodd y Ganolfan Nanodechnoleg Amlddisgyblaeth (MNC) yn Abertawe a chymryd rhan mewn gwaith trawsddisgyblaethol gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Feddygol, gyda ffocws ar gymhwyso nanodechnoleg ym maes meddyginiaeth sy’n ymwneud â diagnosteg uwch-sensitif. Yr Athro Wilks oedd un o’r Cyfarwyddwyr a sefydlodd y Ganolfan NanoIechyd yn Abertawe, ac mae wedi cyhoeddi dros 100 o bapurau a denu incwm ymchwil gwerth dros £33M.

Fel rhan o’i yrfa, mae’r Athro Wilks wedi cyflawni llawer o rolau arweiniol, yn Bennaeth ar y Ganolfan Nanodechnoleg Amlddisgyblaeth (2002-2007), yn Ddirprwy Bennaeth ar y Coleg Peirianneg (2007-2011), yn Bennaeth sylfaenu ar y Coleg Gwyddoniaeth yn Abertawe (2011-2014), yn ddarpar Ddirprwy Is-Ganghellor (2013-2014) ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor ers 2015.

Mae gan yr Athro Wilks drosolwg o weithgareddau Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn Abertawe, yn ogystal â mentrau traws-sefydliadol sy’n ymwneud â phrosiectau pwysig a ariannir yn allanol, partneriaethau rhyngwladol ar y cyd, ymgysylltu â myfyrwyr, datblygiadau chwaraeon, creu Prifysgol iach a rheoli newid. Er mwyn gwella perfformiad y sefydliad yn barhaus, mae’n arwain sawl prosiect er mwyn datblygu a gwreiddio newid: fframwaith arweinyddiaeth broffesiynol, gwerthoedd ac ymddygiad sefydliadol, llwybrau gyrfa academaidd ac adolygiad o’r swyddogaethau gwasanaeth proffesiynol.

Mae’r Athro Wilks hefyd yn cydweithio’n agos â chyrff allanol fel EPSRC, PPARC a STFC, y mae’n arweinydd sefydliadol iddynt, yn ogystal ag asiantaethau a llunwyr polisi’r Llywodraeth. Mae’r Athro Wilks yn Gymrawd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Sefydliad Ffiseg.

Share this post: