Mynd i'r cynnwys

Gallai troi cartrefi’n bwerdai dorri £600 oddi ar filiau tanwydd cartrefi

Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn datgelu y gellid defnyddio dros 60% yn llai o ynni – gan arbed mwy na £600 y flwyddyn i’r cartref cyffredin – petai cartrefi’n cael eu dylunio i gynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni solar eu hunain.

LAWRLWYTHO’R ADRODDIAD

Profwyd y cysyniad hwn yn barod ac mae’n gweithio’n llwyddiannus mewn adeilad yn Abertawe: yr ystafell ddosbarth ynni positif gyntaf yn y Deyrnas Unedig. Mae’n cyfuno to solar a batris storio integredig a chasglwyr gwres solar ar waliau sy’n wynebu’r de. Yn ystod chwe mis o weithredu, mae’r Ystafell Ddosbarth Actif wedi cynhyrchu mwy o ynni nag y mae wedi’i ddefnyddio.

Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn trafod defnyddio’r cysyniad hwn mewn cartrefi, ac yn dadansoddi’r effeithiau economaidd ac ynni y gallai cartrefi o’r math hwn eu cael yn y Deyrnas Unedig.

Seiliwyd yr adroddiad ar ddyluniadau ar gyfer datblygiad tai cymdeithasol Cartrefi Actif Castell-nedd, a dderbyniodd ganiatâd cynllunio heddiw / sy’n cael ei gynllunio. Hwn fydd y datblygiad tai pwysig cyntaf i ddefnyddio dull gweithredu ‘adeiladau sy’n bwerdai’ i ragnodi ac integreiddio technoleg. Datblygwyd y dull gan Ganolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC, Prifysgol Abertawe a ddyluniodd ac a adeiladodd yr ystafell ddosbarth.

Mae’r datblygiad newydd gan Grŵp Pobl, y gymdeithas dai fwyaf yng Nghymru, yn cynnwys toeon solar, batris storio a rennir, a’r potensial i wefru cerbydau trydan. Casglydd gwres solar ar y waliau sy’n wynebu’r de a fydd yn twymo’r dŵr. Cesglir ac ailgylchir gwres gwastraff yn yr adeilad. Gyda’i gilydd, bydd y technolegau’n helpu i gadw’r biliau’n isel.

Dengys yr adroddiad y gallai cartrefi â’r technolegau hyn weld gostyngiad o 60% yn eu biliau ynni cartref.

Yn ogystal â’r manteision i ddefnyddwyr, dengys y dadansoddiad hefyd y byddai codi miliwn o dai tebyg yn cael effaith enfawr ar lefel genedlaethol, gan gynnwys:

  • Gostwng y capasiti cynhyrchu yn ystod yr oriau prysuraf gan 3 gigawat, sy’n cyfateb i orsaf bŵer ganolog fawr.
  • Lleihau allyriadau carbon deuocsid bron 80 miliwn tunnell dros 40 mlynedd
  • Buddiannau posibl i economi’r Deyrnas Unedig trwy fuddsoddi mewn diwydiant newydd

Awdur yr adroddiad yw’r ymgynghorydd ynni annibynnol Andris Bankovskis, sydd hefyd yn aelod o’r Panel Arbenigwyr Technegol, sef grŵp cynghori annibynnol a benodwyd gan y llywodraeth i gynghori ar agweddau technegol ar ddiwygio’r farchnad drydan.

Dywedodd Andris Bankovskis, yr arbenigwr ynni ac awdur yr adroddiad:

“Mae graddfa’r effeithiau posibl yn drawiadol ac mae gofyn felly i ni wneud penderfyniadau ystyriol ynghylch sut y byddwn yn bodloni’r angen am dai mewn modd cynaliadwy.

Mae’n awgrymu, os ydym yn barod i wneud rhai penderfyniadau beiddgar ynghylch dulliau cyflenwi a defnyddio ynni yn y cartref, y gallai’r enillion fod yn sylweddol ac yn barhaol.

Yn ddiweddar, mae Ofgem a’r Llywodraeth wedi rhoi arweinyddiaeth sydd i’w chroesawu trwy ymgynghori ynghylch rhwydweithiau ynni clyfar, ac mae’n hanfodol bwysig bod y rhain yn cael eu datblygu cyn gynted â phosibl.”

 

Mae’r adroddiad hwn yn amserol ac yn dod wythnosau’n unig ar ôl i’r llywodraeth gyhoeddi mesurau i’w gwneud yn haws i storio pŵer mewn batris, a rhoi addewid i ddileu injans petrol a diesel newydd mewn ceir yn raddol a ffafrio dewisiadau mwy gwyrdd erbyn 2040.

Mae hyn yn dilyn cyfres o brosiectau arddangos llwyddiannus i brofi a datblygu’r cysyniad, a’r un mwyaf diweddar o’r rhain oedd yr Ystafell Ddosbarth Actif arobryn a agorwyd ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe yn yr hydref y llynedd.

Dywedodd Kevin Bygate, Prif Weithredwr SPECIFIC:

“Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn dangos y gall cartrefi a’r wlad gyfan fod ar eu hennill os dyluniwn ein cartrefi i fod yn bwerdai. Mae’r dechnoleg yn gweithio, felly mae angen yn awr i ni adeiladu ar ein partneriaethau â diwydiant a’r llywodraeth a’i rhoi ar waith.

“Mae’n wych gweld prosiect Cartrefi Actif Castell-nedd yn arwain y ffordd. Rydym wrth ein bodd â dull gweithredu blaengar Grŵp Pobl a Chyngor Castell-nedd Port Talbot ym maes tai. Iddyn nhw ac i’r weledigaeth a rennir gan 40 o bartneriaid eraill SPECIFIC o’r byd academaidd ac o ddiwydiant, yn ogystal â’n cyllidwyr, sef EPSRC, Innovate UK a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, y mae’r diolch am ein galluogi i wneud y fath gynnydd. Bu’n ymdrech cydweithredol gwirioneddol ar draws y sectorau.

Dyluniwyd Cartrefi Actif Castell-nedd o dan gontract dylunio ac adeiladu safonol, sy’n golygu y gellir eu hail-greu ar raddfa. Mae gennym bob rheswm i gredu bod ynni glanach a rhatach yn ein disgwyl ni i gyd yn y dyfodol”

 

Datblygir yr 16 o dai newydd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’n un o gynlluniau blaengar y prosiect Cartrefi sy’n Bwerdai ym Margen Ddinesig Bae Abertawe, sef buddsoddiad gwerth £1.3 biliwn yn y rhanbarth a lofnodwyd gan y Prif Weinidog Theresa May ym mis Mawrth. Disgwylir y bydd preswylwyr yn symud i mewn i’r datblygiad yng ngwanwyn 2019.

Cyhoeddwyd datganiadau cefnogol gan Innovate UK a’r Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy:

Dywedodd Ruth McKernan, Prif Weithredwr Innovate UK, Asiantaeth Arloesedd y Deyrnas Unedig:

“Mae Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC wedi bod yn llwyddiant mawr ac yn gydweithrediad allweddol rhwng Innovate UK, EPSRC, Llywodraeth Cymru, a Phrifysgol Abertawe. Yn ystod ein cyfnod cyllido, mae SPECIFIC wedi arddangos ei thechnoleg Adeiladau sy’n Bwerdai mewn nifer o sefyllfaoedd, gan gyrraedd pen llanw yn ddiweddar ar ffurf yr ystafell ddosbarth arobryn ar Gampws newydd y Bae, Prifysgol Abertawe. Mae modd ffitio’r dechnoleg ar ôl gorffen adeiladu neu ei hymgorffori wrth godi adeiladau newydd.

Rydym yn croesawu penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i greu datblygiad tai cymdeithasol â Chartrefi Actif Castell-nedd. Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn disgrifio manteision technoleg Adeiladau sy’n Bwerdai os caiff ei datblygu i’w gwir botensial.”

LAWRLWYTHO’R ADRODDIAD

Share this post: