Mynd i'r cynnwys

Jon Wood

Jon Wood yw Rheolwr Cymru yn Innovate UK, ac mae’n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru i ddatblygu cysylltiadau cryfach a chydlyniant rhwng strategaethau arloesedd lleol a chenedlaethol. Mae Jon yn credu’n angerddol yn entrepreneuriaeth ac arloesedd Cymru, ac mae bob amser yn chwilio am gyfleoedd i arddangos rhai o’r technolegau, y dyfeisiadau a’r busnes rhyfeddol sydd gan Gymru i’w cynnig. Mae Jon wedi bod yn rhan o daith SPECIFIC ers 2016, ac ymunodd â’r Bwrdd yn 2017. Cyn ymuno ag Innovate UK, bu Jon yn gweithio yn y diwydiant ensymau, gan gychwyn ei yrfa fel gweithiwr cyswllt KTP, ar ôl cwblhau BSc a PhD mewn microfioleg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Share this post: