Mynd i'r cynnwys

Swyddfa yfory, heddiw – swyddfa ynni positif gyntaf y DU yn agor yn Abertawe

Bydd swyddfa ynni positif gyntaf y DU, sy’n creu mwy o ynni solar nag y mae’n ei ddefnyddio, yn agor ym Mhrifysgol Abertawe ar 21ain Mehefin. 

Ar hyn o bryd mae adeiladau’n cyfrif am oddeutu 40% o’r ynni a ddefnyddir yn y DU. Mae’r adeilad newydd hwn, a adwaenir fel y Swyddfa Weithredol, yn dangos y ffordd i genhedlaeth newydd o swyddfeydd carbon isel sy’n cynhyrchu eu cyflenwad eu hunain o ynni glân.

Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fydd yn agor y swyddfa. Fe’i dyluniwyd gan SPECIFIC, Canolfan Arloesi a Gwybodaeth a arweinir gan Brifysgol Abertawe.

Mae’r Swyddfa Weithredol yn cyfuno ystod o dechnolegau arloesol a fydd yn ei galluogi i greu, storio a rhyddhau ynni solar mewn un system integredig, gan gynnwys:

  • To crwm gyda chelloedd solar integredig gan ddangos natur hyblyg y panel ffotofoltäig laminedig;
  • System Thermol Ffotofoltäig ar y wal sy’n wynebu’r de – sy’n gallu creu gwres a thrydan o’r haul mewn un system
  • Batris lithiwm-ion i storio’r trydan a gynhyrchir a thanc dŵr 2,000 litr i storio gwres solar

Gwelwyd yn barod fod y cysyniad ‘adeiladau fel gorsafoedd pŵer’ yn gweithio.  Mae’r Ystafell Ddosbarth Weithredol, sef ystafell ddosbarth ynni cadarnhaol gyntaf y DU, drws nesaf i’r Swyddfa Weithredol. Fe’i hadeiladwyd gan SPECIFIC ac yn ddiweddar enwodd RICS Cymru y prosiect hwn yn Brosiect y Flwyddyn. Yn ei blwyddyn gyntaf, llwyddodd yr Ystafell Ddosbarth Weithredol i gynhyrchu dros 1.5 gwaith yr ynni a ddefnyddiodd.

Caiff y Swyddfa Weithredol a’r Ystafell Ddosbarth eu cysylltu ynghyd a byddant yn gallu rhannu ynni â’i gilydd a cherbydau trydan, gan ddangos sut y gellid cymhwyso’r cysyniad mewn cymuned pŵer solar sy’n hunangynhaliol o ran ynni.

Byddant yn darparu mannau dysgu a swyddfeydd ymarferol, yn ogystal â chyfleusterau ar raddfa adeilad ar gyfer SPECIFIC a’i bartneriaid diwydiannol.

Gallai adeiladau ynni cadarnhaol fod o fudd sylweddol i’r DU. Dangosodd dadansoddiad yn 2017 y byddai’n golygu:

  • Costau ynni is i ddefnyddwyr
  • Llai o angen i gynhyrchu pŵer canolog yn y cyfnodau brig a llai o straen ar y Grid Cenedlaethol, gan arwain at ddiogelwch ynni gwell
  • Llai o allyriadau carbon 

Mae’n hawdd atgynhyrchu’r math hwn o swyddfa o ganlyniad i’r modd iddi gael ei dylunio. Mae’r gwaith adeiladu’n gyflym, gan gymryd un wythnos yn unig i’w rhoi at ei gilydd, gyda llawer o’r gwaith adeiladu’n digwydd oddi ar y safle. Mae’n defnyddio technolegau sydd ar gael yn fasnachol yn barod yn unig, sy’n golygu nad oes rheswm pam na ellid eu defnyddio ar unrhyw adeilad newydd.

Meddai Kevin Bygate, prif swyddog gweithredol SPECIFIC:

“Mae swyddfeydd yn defnyddio symiau enfawr o ynni, felly trwy eu gwneud yn gadarnhaol o ran ynni, mae potensial i leihau biliau tanwydd a lleihau eu hallyriadau carbon yn sylweddol.  

Mae troi’n hadeiladau’n orsafoedd pŵer yn gysyniad sy’n gweithio, fel y dengys yr Ystafell Ddosbarth Weithredol. Bydd yr adeilad newydd hwn yn ein galluogi i gael data a thystiolaeth ynghylch sut y gellid ei ddefnyddio ar gyfer swyddfa, gan ein helpu i fireinio’r dyluniad ymhellach. 

Er mai dyma’r Swyddfa Weithredol gyntaf o’i math, nid yw’n unigryw. Mae’n gyflym ei adeiladu gan ddefnyddio cadwyni cyflenwi sy’n bodoli’n barod, ac mae’n defnyddio deunyddiau sydd ar gael yn barod yn unig. Dyma Swyddfa fory, ond gall gael ei hadeiladu heddiw.” 

Dywedodd Ian Campbell, Cadeirydd Gweithredol Innovate UK: 

“Mae’n anodd gorbwysleisio potensial datblygu adeilad sy’n pweru ei hun. Gallai’r cysyniad chwyldroi’r sector adeiladu yn wirioneddol, ac ar ben hynny newid sut rydym yn cynhyrchu ac yn defnyddio ynni yn gyfan gwbl, felly mae agor y Swyddfa Weithredol yn Abertawe yn gam cyffrous ymlaen. 

Gall datblygu technolegau fel y rhai a welir yn Swyddfa Weithredol SPECIFIC chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddiwydiannol fodern y Llywodraeth i greu ‘twf glân’ ac i gyflawni ein cenhadaeth i haneru allyriadau o adeiladau newydd erbyn 2030.” 

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Rwy’n hynod falch o agor y Swyddfa Weithredol, sy’n enghraifft fyw o sut y gall adeilad wneud gwahaniaeth i ni ac i’r amgylchedd gan ddefnyddio technolegau arloesol – ac yr un mor bwysig, creu swyddi yng Nghymru. 

“Mae gan ymchwil ac arloesi record brofedig o ysgogi ein heconomi. Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi bod yn gefnogwr balch o’r prosiect, a’r llynedd rhoddodd £800,000 iddo drwy Innovate UK. 

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn uchelgeisiol ynghylch Abertawe, a disgwylir y bydd Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn creu mwy na 9,000 o swyddi a gwerth £1.3biliwn o fuddsoddiadau ar draws y rhanbarth. 

“Does gen i ddim amheuaeth y byddaf yn ôl ym Mhrifysgol Abertawe yn y dyfodol agos oherwydd y cynnydd mawr ym maes gwyddoniaeth ac ymchwil, sy’n cael ei gydnabod ledled y byd.”

Ariannwyd y Swyddfa Weithredol gan Innovate UK, gyda chymorth Prifysgol Abertawe a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, ac fe’i noddir gan Tata Steel a Cisco.

Share this post: